Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i’r cynigion deddfwriaethol drafft ar gyfer Cronfeydd Strwythurol yr UE 2014 - 2020

 

Tystiolaeth y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd

 

Cyflwyniad

 

1.    Mae’r papur hwn yn darparu tystiolaeth ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor i’r cynigion deddfwriaethol drafft ar gyfer cronfeydd Strwythurol yr UE  2014-2020. 

 

2.    Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ac fe anfonais ddatganiad ysgrifenedig amdanynt at aelodau’r Pwyllgor ar 21 Hydref 2011. Cyhoeddwyd y rheoliadau drafft ar 6 Hydref 2011, ac roeddent yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer gweinyddu Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi dweud yn glir bod rhaid i raglenni Cronfeydd Strwythurol y dyfodol gyflawni amcanion ‘Ewrop 2020’, sef sicrhau twf call, cynaliadwy a chynhwysol, ac mae hynny’n cydategu llawer o bolisïau a gweithredoedd Llywodraeth Cymru, a nodir yn ein ‘Rhaglen Lywodraethu’ uchelgeisiol.

 

3.    Er ein bod yn cytuno â llawer o’r egwyddorion sy’n sail i’r cynigion deddfwriaethol, tybiwn y gellid gwella rhai o’r manylion, yn enwedig er mwyn cynyddu hyblygrwydd a symleiddio. Rydym yn mynd ati i ymgysylltu mewn modd cadarnhaol a rhagweithiol â Llywodraeth y DU a gwahanol sefydliadau yn yr UE i geisio egluro a gwella’r cynigion.

 

Goblygiadau’r cynigion newydd i Gymru

 

4.    Mae rheoliadau drafft y Comisiwn yn fan cychwyn da i’r trafodaethau. Mae nifer o agweddau ar y cynigion a fydd o ddiddordeb arbennig i Gymru, ac mae’r rheiny’n codi nifer o gyfleoedd a heriau.

 

5.    Mae Llywodraeth Cymru’n croesawu’r dull ‘Rhaglenni Strategol’ o weithredu, sy’n rhoi rhagor o bwyslais ar ganlyniadau, ar ganolbwyntio’r adnoddau yn thematig ac ar opsiynau cyllido mwy integredig.  Rydym hefyd yn edrych ymlaen at gynigion y Comisiwn Ewropeaidd, a gyhoeddir ddechrau’r flwyddyn nesaf, ar gyfer Fframwaith Strategol Cymunedol a fydd yn cwmpasu’r cronfeydd strwythurol (ERDF, ESF), y cronfeydd gwledig (EAFRD) a’r cronfeydd pysgodfeydd. Rydym yn gobeithio y bydd y fframwaith hwn yn helpu i greu cyfleoedd gwirioneddol i integreiddio’r cronfeydd hyn mewn modd ystyrlon.

 

6.    Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i sicrhau bod y Contract Partneriaeth arfaethedig rhwng y Comisiwn a’r Aelod-wladwriaethau’n cynnig gwerth ychwanegol gwirioneddol. Bydd yn hanfodol i’r contractau barchu trefniadau sefydliadol pob aelod-wladwriaeth unigol. Yn y DU, bydd angen i’r contract adlewyrchu’r trefniadau datganoli llywodraethau o fewn y DU. Mae hyn yn bwysig am fy mod am weld Cymru’n gwneud cyfraniad llawn fel cenedl ddatganoledig at gyflawni’r ymrwymiadau o fewn y rheoliadau; bydd angen i’r Contract Partneriaeth gydnabod y cyfraniad hwn a pharchu gwahaniaethau ym mholisïau a dulliau gweithredu’r Gweinyddiaethau Datganoledig ar gyfer cyflawni amcanion Ewrop 2020.

 

7.    Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r egwyddor o ganolbwyntio adnoddau yn thematig, gan y bydd hyn yn helpu i sicrhau bod yr adnoddau’n cael effaith wirioneddol, ar lefel yr UE. Fodd bynnag, rydym o’r farn mai’r Aelod-wladwriaethau a’r Rhanbarthau ddylai benderfynu ar y blaenoriaethau y dylid eu dewis wrth ganolbwyntio ar themâu arbennig. Rydym yn bryderus bod y cynigion ar gyfer canolbwyntio thematig a neilltuo adnoddau o fewn y rheoliadau ar gyfer yr ERDF a’r ESF yn rhy gaeth ac rydym yn galw am ragor o hyblygrwydd er mwyn gallu dewis rhaglenni ar sail y dystiolaeth o’r angen a’r cyfleoedd yn y rhanbarthau eu hunain.

 

8.    Mae’r Comisiwn wedi amlinellu’n glir ei ddiddordeb mewn cael y Rhanbarthau i dargedu ardaloedd trefol; mae’r rheoliadau drafft yn cynnig y dylid gwario o leiaf 5% o adnoddau’r ERDF ar ddatblygu trefol cynaliadwy yn y dinasoedd. Er eu bod yn cydnabod swyddogaeth y dinasoedd a’r ardaloedd trefol o ran sbarduno twf economaidd, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth u DU yn gwrthwynebu’r orfodaeth hon i glustnodi cyllid. Mae angen i’r cynnig penodol hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun y cysyniad newydd o ranbarth dinesig sydd wrthi’n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru a’i botensial fel dull gofodol o ysgogi datblygiad economaidd. O gofio’r gwahaniaethau sylweddol rhwng nodweddion tiriogaethol, poblogaeth a marchnadoedd llafur Cymru a rhanbarthau eraill, mae’n debygol y bydd unrhyw ddulliau datblygu trefol a roddir ar waith yng Nghymru yn wahanol iawn i’r dulliau mewn rhannau eraill o’r DU.

 

9.    Mae cwmpas yr ERDF a’r ESF yn parhau’n debyg i’r rhaglenni cyfredol. Er mwyn ceisio sicrhau’r hyblygrwydd mwyaf posibl yn y rhaglenni a ddewisir, rydym yn gwrthwynebu’r gofynion sylweddol a gynigir gan y Comisiwn i glustnodi cyfran orfodol o gyllid yr ERDF (isafswm gorfodol ar gyfer blaenoriaeth carbon isel) a’r ESF (clustnodi cyfran orfodol o’r gwariant ar gyfer y blaenoriaethau cynhwysiant cymdeithasol a mynd i’r afael â thlodi). Nid yw hyn yn golygu na fyddem yn dymuno blaenoriaethu’r materion hynny, ond credwn y dylem allu gwneud penderfyniadau strategol yn seiliedig ar y dystiolaeth o’r angen a’r cyfleoedd yng Nghymru. Hefyd, nid yw’r cynigion cyfredol yn cydnabod natur drawsbynciol y blaenoriaethau hyn: bydd gweithgarwch Carbon Isel yn digwydd drwy flaenoriaethau megis ymchwil ac arloesi, trafnidiaeth gynaliadwy, neu weithredu ar y newid yn yr hinsawdd; bydd cynhwysiant cymdeithasol a lleihau tlodi yn cael eu cyflawni drwy weithgarwch ym maes cyflogaeth a sgiliau i gynyddu’r cyfranogiad yn y farchnad lafur.

 

10. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod yn benodol yr angen i fuddsoddi mewn modd mwy effeithiol. Gellid cyflawni hyn drwy amodoldebau a fyddai’n mynnu bod Aelod-wladwriaethau’n darparu tystiolaeth eu bod wedi sefydlu’r fframweithiau polisi, deddfwriaethol ac economaidd cywir i fuddsoddi cyllid yr UE yn effeithiol. Fodd bynnag, mae angen inni sicrhau bod unrhyw amodoldebau yn y dyfodol yn gymesur ac yn uniongyrchol berthnasol i’r buddsoddiad dan sylw ac nad ydynt yn tresmasu ar gymhwysedd yr Aelod-wladwriaeth nac egwyddorion sybsidiaredd. Nid yw’n eglur eto sut bydd amodoldebau macro-economaidd yn gwella perfformiad, ac mae perygl y gallent gosbi’r rhanbarthau ac Aelod-wladwriaethau y mae arnynt fwyaf o angen y cyllid. Mae Llywodraethau Cymru a’r DU yn gofyn felly am osod cyfyngiadau ar y modd y defnyddir ac y cymhwysir yr amodoldebau macro-economaidd arfaethedig.

 

11. Mae Llywodraeth Cymru’n bleidiol iawn i fframwaith perfformiad cadarn ar gyfer monitro a gwerthuso’r buddsoddiadau o’r cronfeydd strwythurol; fodd bynnag, mae gennym bryderon ynghylch y math o raglenni a allai gael eu rhoi ar waith o ganlyniad i sefydlu cronfa wrth gefn ar gyfer perfformiad. Gallai’r rhanbarthau ddewis rhaglenni sydd heb ddigon o uchelgais nac arloesedd er mwyn sicrhau canlyniadau rhwydd a chyflym a chyrraedd y targedau. Hefyd, mae’r rheoliadau drafft yn cynnig talu’r gronfa wrth gefn ar gyfer perfformiad yn 2019, ond byddai hynny’n rhy agos at ddiwedd cyfnod y rhaglenni i allu gwneud defnydd da o’r adnodd ychwanegol.

 

12. Yn ogystal â cheisio cymaint o hyblygrwydd ag y bo modd er mwyn teilwra rhaglenni’r dyfodol i ddiwallu anghenion penodol Cymru, blaenoriaeth allweddol arall yw ceisio symleiddio’r rhaglenni cymaint ag y bo modd. Mae’r rheoliadau drafft wedi cynnig mesurau i symleiddio’r trefniadau a phrosesau cyfredol; fodd bynnag, mae nifer o ofynion monitro ac adrodd ychwanegol yn gwrthbwyso’r mesurau hyn. O ganlyniad, rydym yn ofni o hyd na fydd yr addewid i symleiddio yn cael ei wireddu yn ymarferol.

 

13. Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r safbwynt y dylai’r UE fynnu lefelau uchel o ddisgyblaeth a gonestrwydd ariannol gyda’r cyllid a ddyrennir ganddo ac mae’n cydnabod gwerth y targedau gwariant a osodir gan y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer rheoli’r arian yn effeithiol. O ganlyniad, rydym yn cefnogi parhad y targedau hyn ond yn croesawu’r camau i sicrhau eu bod yn adlewyrchu realiti gwariant y rhaglenni yn well (e.e. llai o wariant ar ddechrau’r rhaglenni).

 

14. Mae’r rheoliadau’n annog rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio Offerynnau Peiriannu Ariannol, sydd wedi cael cefnogaeth gref gan Lywodraeth Cymru. Mae Cymru eisoes wedi bod yn flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu offerynnau peiriannu ariannol yn y rhaglenni Cronfeydd Strwythurol presennol, gan arloesi â mentrau JEREMIE a JESSICA. Byddwn yn edrych ar y posibilrwydd o ehangu offerynnau tebyg yn rhaglenni 2014-2020.

 

15. Yn y ddau achos - ESF ac ERDF - bydd angen gwneud dewisiadau anodd ynghylch yr amcanion y dylid eu cyflawni â’r cyllid gweddilliol (ar ôl cwrdd â’r gofynion clustnodi cyllid) er mwyn cael y fantais fwyaf bosibl o’r buddsoddiadau yn y dyfodol. Mae pwyslais a chynnwys rheoliadau drafft y Comisiwn yn fan cychwyn da ar gyfer negodi ond bydd angen i’r trafodaethau gael eu dirwyn i ben yn foddhaol cyn y gellir cytuno ar unrhyw raglenni ar gyfer y dyfodol a’u rhoi ar waith wedyn. Mae’n bwysig dros ben bod y trafodaethau hyn, yn ogystal â’r rhai sy’n gysylltiedig â chyllideb yr UE ar gyfer 2014-2020, yn cael eu cwblhau’n llwyddiannus ac yn fuan os yw Cymru i ddechrau gweithredu’r rhaglenni newydd a phrosiectau strategol allweddol erbyn dechrau 2014.

 

Ymgysylltu â Llywodraeth y DU

 

16. Nod Llywodraeth y DU yw lleihau cyllideb yr UE,  ac, yn enwedig, dileu’r cronfeydd strwythurol yn llwyr yn yr Aelod-wladwriaethau mwy llewyrchus. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru’n dal i gredu y dylai’r Cronfeydd Strwythurol fod ar gael i’r rhanbarthau tlotaf beth bynnag fo maint Cynnyrch Mewnwladol Crynswth yr Aelod-wladwriaeth, ac y dylid rhoi rhyw fath o gyllid ‘trosiannol’ ar gael i’r rhanbarthau sy’n tyfu allan o gyllid cydgyfeirio. Creda hefyd y dylai’r gyllideb fod yn ddigonol ac yn briodol ar gyfer cyflawni blaenoriaethau Ewrop 2020.

 

17. Er bod gwahaniaethau clir rhyngom yn nhermau maint a dyraniad cyllideb yr UE, mae Llywodraethau Cymru a’r DU yn gytûn i raddau helaeth ynghylch cyfeiriad strategol a pholisi. Rwy’n benderfynol o negodi’r rhaglenni gorau posibl i Gymru er mwyn helpu i gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol ni a chyrraedd yr amcanion a nodir gennym yn ‘Ewrop 2020’.

 

18. Caiff Llywodraeth Cymru ei chydnabod yn eang o fewn yr Undeb Ewropeaidd fel esiampl dda o ran rheoli cyllid a defnyddio Cronfeydd Strwythurol mewn modd arloesol, a gallai hynny fod yn gaffaeliad mawr i’r DU yn ystod y broses negodi. Mae tebygrwydd y gallai Gorllewin Cymru a’r Cymoedd fod yn gymwys i gael y lefel uchaf o gymorth ar ôl 2013, felly mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu mewn modd dilys ac ystyrlon, gyda’r Llywodraethau Datganoledig eraill, at y gwaith o ddatblygu a chytuno ar safbwynt negodi’r DU.

 

 

19. Rhaid i’r DU fod wrth galon y trafodaethau â’r Comisiwn Ewropeaidd os yw buddiannau cenedlaethol Cymru i gael eu hyrwyddo i’r eithaf. Fodd bynnag, mae’n bwysig hefyd bod llais Cymru ei hunan yn cael ei glywed yn uniongyrchol yn Ewrop. Bûm yn cwrdd â’r Comisiynydd Hahn yn gynharach eleni ac yn ddiweddar fe wnes i ddychwelyd o gyfres o gyfarfod yn Strasbourg a Brwsel lle cefais gwrdd â nifer o ASE gan gynnwys rapporteurs pwyllgorau Senedd Ewrop a phedwar ASE Cymru. Roeddwn yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Cyngor Materion Cyffredinol hefyd. Rwyf hefyd wedi cael nifer o drafodaethau â Gweinidogion a swyddogion y DU a byddaf yn parhau i gydweithio’n agos â’r holl bartïon cysylltiedig i sicrhau bod Cymru’n cael llais cryf i ddylanwadu ar y cyfeiriad polisi.

 

Cerrig milltir allweddol eraill

 

20. Bydd gwaith partneriaeth ar draws Ewrop, y DU ac o fewn Cymru’n allweddol ar gyfer datblygu a chyflawni rhaglenni’r dyfodol yn llwyddiannus. Yn ogystal â chydweithio’n agos â  phartneriaid pwysig ar lefel yr UE a’r DU, rwyf wedi sefydlu Fforwm Partneriaeth Rhaglenni Ewropeaidd gyda phartneriaid allweddol strategol yng Nghymru. Bydd y Fforwm yn helpu i ystyried cyfeiriad a chynnwys unrhyw raglenni newydd yng Nghymru yn y dyfodol ac mae eisoes wedi cwrdd ddwywaith i drafod goblygiadau’r cynigion deddfwriaethol drafft, dull gweithredu llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu economaidd a’r dystiolaeth o blaid datblygu rhaglenni newydd.

 

21. Ar 1 Rhagfyr 2011, lansiais ‘Ymarfer Myfyrio’ er mwyn rhoi cyfle i bartneriaid a rhanddeiliaid yng Nghymru helpu i lywio’r ffordd o feddwl strategol ynghylch y ffyrdd y gallai rhaglenni Ewropeaidd y dyfodol gefnogi swyddi cynaliadwy a thwf economaidd. Nid yw’r ymarfer myfyrio hwn, sy’n cwmpasu rhaglenni Cronfeydd Strwythurol y dyfodol a rhaglenni gwledig EAFRD ac EMFF, yn ymarfer ymgynghori ffurfiol ar y cynlluniau ar gyfer y rhaglenni newydd; bydd hwnnw’n dilyn yn nes ymlaen yn 2012, unwaith y bydd y cyfeiriad strategol clir a’r cynigion drafft ar gyfer y rhaglenni gweithredol wedi’u pennu.

 

22. Bwriedir cynnal dadl lawn ar y cynigion deddfwriaethol ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol a’r ‘Ymarfer Myfyrio’ ar 10 Ionawr 2012 - bydd yn gyfle pwysig i drafod y pwnc pwysig hwn ymhellach.